Skip to main content

Ymunwch yn y...

Y Big Number Natter

Boed yn dda neu’n ddrwg, mae gan bawb rywbeth i’w ddweud am fathemateg!

Mae siarad am rifau’n eu gwneud nhw ychydig yn llai brawychus. Yn aml, byddwch yn sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun, ac mae’n gam cyntaf gwych tuag at wella rhifedd hefyd.

National Numeracy Day logo

PRYD?

Y mis Mai hwn! Cynhelir National Numeracy Day ddydd Mercher 22 Mai 2024, felly byddwn wrthi’n sgwrsio drwy gydol mis Mai.

BLE?

Ymunwch ag enwogion ac arbenigwyr ar y cyfryngau cymdeithasol drwy rannu eich straeon rhifau chi. Neu ymunwch â’r miloedd o bobl sy’n cynnal eu sesiynau Number Natter eu hunain ledled y DU, drwy gynnal un yn eich ysgol, eich coleg, eich gwaith neu’n cymuned chi.

Mynnwch eich adnoddau Number Natter chi am ddim:

Cynlluniwch eich sesiwn

Dechreuwch arni drwy gynllunio eich sesiynau Big Number Natter gyda’r nodiadau hyn i drefnwyr. Yna gallwch archwilio’r holl adnoddau eraill.

Thumbnail

Boster Big Number Natter

Defnyddiwch y poster hwn y gellir ei olygu i hyrwyddo eich sesiynau.

Thumbnail

Eich sleidiau Number Natter

Cynhaliwch sesiwn 15-30 munud gan ddefnyddio'r sleidiau hyn, sy’n dod gyda nodiadau i’r cyflwynydd.

Slides thumbnail

Pwyntiau trafod Number Natter cyflym

Defnyddiwch y syniadau hyn i sbarduno sgwrs lai ffurfiol am rifau.

Thumbnail

Syniadau ar gyfer Number Natters ar y cyfryngau cymdeithasol

Defnyddiwch y syniadau hyn i annog pawb i barhau â’r gwaith ar ôl eich sesiwn gyda syniadau ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Number Natters unigol.

Thumbnail